Uchafbwyntiau Diweddar

Croesawu tîm pêl-droed merched Awstralia


 

Ar ôl tymor prysur iawn yn yr hydref, a saib dros y Nadolig, bwriodd Côr Caerdydd ati’n syth ar ddechrau Ionawr gyda’i weithgareddau. Roedd y côr wedi cael gwahoddiad i groesawu tîm o ferched ysgol o Awstralia oedd yn cynrychioli eu gwlad mewn pêl-droed ac a oedd ar daith yng Nghymru a Lloegr. Y cynllun oedd i’w croesawu i westy’r Leonardo ynghanol Caerdydd ar ôl iddyn nhw gyrraedd o Birmingham.

Roeddem yn rhagweld criw o ferched yn cyrraedd yn eu cotiau a’u cesys â’u bryd ar gyrraedd eu stafelloedd neu’n llwgu am bryd o fwyd. Ond oherwydd bod eu gêm wedi’i ganslo yn sgil rhew, roeddent wedi cyrraedd yn barod a threfnwyd i ni ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wrth iddyn nhw gerdded i lawr y grisiau. Gyda’u gwalltiau wedi’u golchi, eu tracsiwtiau glas a du am eu cefnau a’u treinyrs gwyn newydd sbon ar eu traed roedden nhw’n edrych yn bictiwr!

Wrth i ni barhau i roi croeso Cymreig iddyn nhw gyda ‘Cwm Rhondda’ a ‘Calon Lân’ dan arweiniad Geraint Herbert ac i gyfeiliant Dafydd Huw, roedd sawl un o’r merched yn gegrwth – yn amlwg heb glywed y fath ganu o’r blaen. Ac roedd syrpreis arall iddyn nhw. Gorffennwyd y rhaglen gydag ‘Advance Australia Fair’ – anthem genedlaethol eu gwlad – ac roeddent wrth eu bodd.

Cafodd aelodau’r côr y pleser o sgwrsio â’r merched ar ôl canu, ac mi esbonion nhw eu bod yn dod o bob rhan o Awstralia ac nad oedden nhw wedi ymarfer gyda’i gilydd nes iddyn nhw gyrraedd tir mawr Prydain. Roedd aeddfedrwydd a sgiliau cyfathrebu’r merched wedi creu argraff fawr ar sawl un o aelodau’r côr. Roedden nhw’n llysgenhadon gwych i’w gwlad.

Mae’n amlwg bod canu Côr Caerdydd wedi eu hysbrydoli gan iddynt fynd ymlaen drannoeth i guro tîm merched Dinas Caerdydd o 11 gôl i ddim!